UWB Crest

Grŵp Iechyd a Diogelwch Gogledd-Orllewin Cymru

Croeso

 

WE GOT SILVER!

 

Croeso i Grŵp Iechyd a Diogelwch Gogledd-Orllewin Cymru (NWWHSG), sefydliad hunan-gymorth, di-elw, yn cynnwys aelodau o blith ystod eang o gyflogwyr a sefydliadau o holl ardaloedd Gogledd Cymru, a’u cenhadaeth fel a ganlyn:

‘Gweithio ar y cyd i sicrhau bod gweithleoedd yn iach ac yn ddiogel i bawb’.

Mae’r Grŵp yn aelod o Safety Groups UK, elusen a sefydlwyd ym 1947 i hyrwyddo iechyd a diogelwch ar draws y D.U. trwy rwydwaith o Grwpiau Lleol dros Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol. Eu cenhadaeth gyffredinol yw sicrhau bod y grwpiau iechyd a diogelwch hyn yn chwaraewyr allweddol yng nghyfundrefn y DU dros iechyd a diogelwch, ac o ran gweithredu strategaeth y DU dros iechyd a diogelwch.

Ar ben hynny, mae’r Grŵp yn aelod o’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA). 

Yn ddiweddar, mae’r NWWHSG wedi cael llwyddiant mawr yng ngwobrau Alan Butler, a grëwyd gan Safety Groups UK er anrhydedd i Alan Butler, a fu’n gwasanaethu ar ei Fforwm Cynghorau o 1991 tan ei farwolaeth annhymig ym 1995.  Roedd annog safonau uchel o waith mewn Grwpiau unigol a chydnabod hyn wrth gyhoeddi eu llwyddiannau ar draws sefydliad y Grwpiau yn un o syniadau Alan. Cydnabuwyd gwaith caled NWWHSG i wireddu’r ethos hwn yn:

2009

  • Enillydd – Categori 2, Rhaglen Gyffredinol Orau

  • Canmoliaeth Uchel – Categori 3, Seminar / Gweithdy Gorau

2010

  • Canmoliaeth Uchel – Categori 2, Rhaglen Gyffredinol Orau

Cynhelir y Grŵp trwy ei ffioedd aelodaeth, ond mae’n sylweddoli o’r gorau bod ein sgyrsiau yn anelu at hyrwyddo iechyd a diogelwch wrth ystod eang ac amrywiol iawn o sefydliadau ac unigolion. Fel y cyfryw, rydym yn gwahodd pawb i ddod i unrhyw gyfarfod misol (heb orfod archebu nac ymuno) i weld yr hyn yr ydym yn sefyll drosto, a chan obeithio y byddwch yn ymuno â ni a’n cefnogi yn y dyfodol.

Felly, p’un a fyddoch wedi talu eich aelodaeth neu beidio, rydym yn eich croesawu i gyd i’r Sgwrs Nesaf sydd i’w chynnal ar 14 Mawrth.  Dewch draw i ymuno â ni, a gweld drosoch eich hun!

Edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi.

 

Ffurflen Aelodaeth Flynyddol NWWHSG

Isod fedrwch ddarganfod y Ffurflen Aelodaeth Flynyddol am 2011. Y gost yw £25 i bob sefydliad fel rwyt yn gallu danfon cymaint o bobl rydych eisiau, mae'r pres yn mynd tuag at y gost o de a choffi, tâl post ayb. Os fedrwch gwblhau'r ffurflen mor fuan ag sy'n bosib a dychwelid o, efo'ch pres aelodaeth, i'r cyfeiriad a nodir ar y Ffurflen.  Ffurflen Aelodaeth Flynyddol