UWB Crest

Grŵp Iechyd a Diogelwch Gogledd-Orllewin Cymru

Grŵp Iechyd a Diogelwch Gogledd-Orllewin Cymru

Alan Butler Gwobrau

 

Mae Grŵp Iechyd a Diogelwch Gogledd Orllewin Cymru (GIDGOC) yn sefydliad hunan-gymorth, di-elw. Y mae wedi cofrestru gyda’r Royal Society for the Prevention of Accidents (RoSPA) ac mae’n cynnwys aelodau o amrywiaeth eang o gyflogwyr a sefydliadau, mawr a bach, o bob rhan o ogledd Cymru.

Sefydlwyd y Grŵp yn wreiddiol gan gyflogwyr lleol i gefnogi’r naill a’r llall er mwyn hyrwyddo arferion iechyd a diogelwch da yn y gweithle. Fel rheol, mae’r Grŵp yn cyfarfod ar ddydd Mercher ail bob mis (o leiaf 9 gwaith y flwyddyn) ym Mhrifysgol Bangor. Rhoddir yr holl sgyrsiau gan weithwyr proffesiynol ym maes diogelwch, Arolygwyr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) neu Ymgynghorwyr Arbenigol, ar amrywiaeth o destunau – yn cynnwys materion cyfoes, diddordebau aelodau a datblygiadau newydd.

Mae’r 'sgyrsiau' yn fforwm i aelodau drafod a derbyn gwybodaeth am ddeddfwriaeth newydd a chyfredol ac arferion da sy’n effeithio ar iechyd a diogelwch yn y gweithle. Maent hefyd yn galluogi i aelodau gyfarfod â chyflogwyr a sefydliadau lleol eraill sy’n gweithio mewn maes tebyg, gan greu rhwydwaith cefnogi, a galluogi i gyfnewid syniadau ac atebion iechyd a diogelwch.

Bychan yw’r gost aelodaeth (tua £25 y flwyddyn fel rheol) a defnyddir yr arian i dalu am gostau cynnal y Grŵp, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio tuag at ddigwyddiadau ychwanegol e.e. cynadleddau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Grŵp Iechyd a Diogelwch Gogledd Orllewin Cymru, cysylltwch â’r canlynol:

Y Grŵp Iechyd a Diogelwch
d/o Prifysgol Bangor
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch
Ffordd y Coleg
Bangor
LL57 2DG

Ffôn:
01248 383847

E-bost:
healthandsafety@bangor.ac.uk