Grŵp Iechyd a Diogelwch Gogledd-Orllewin Cymru
Sefydliadau (yn hytrach nag unigolion) sy’n aelodau o’r grŵp hwn. Mae hyn yn galluogi i sefydliadau nid yn unig anfon cymaint o bobl ag maent ei eisiau, ond hefyd wahodd unigolion yn eu sefydliadau, neu sy'n gwneud gwaith ar gontract i'w sefydliadau, i ddod i sgyrsiau a all fod o ddiddordeb iddynt.
Ar hyn o bryd mae gennym amrywiaeth o aelodau. Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau o’r sector cyhoeddus, megis awdurdodau lleol, e.e. Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy, a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill, fel Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Yn ogystal, mae’r aelodaeth yn cynnwys nifer o sefydliadau bach a mawr o’r sector preifat. Er enghraifft, Magnox, First Hydro, Hufenfa De Arfon, Egniol Environmental, Anglesey Scaffolding a R L Davies a’i Feibion.
Sylwch y bydd unrhyw ffi danysgrifio yn cael ei godi yn 2016.